Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser

4 Rhagfyr

07.50 tan 09.20 Ystafell Gynadledda 21,  Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

Technolegau newydd o ran gwneud diagnosis o ganser, a'i drin.

 

Agenda

1.      07:50 Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser.

 

2.       08.00 Croeso a chyflwyniadau

 

3.       08:10 Profion Genetig - Dr Rachel Butler, FRCPath, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Pennaeth Labordy Geneteg Cymru.

 

4.       08.20 Meddygaeth Haenedig  -  Yr Athro  Malcolm Mason , Pennaeth Oncoleg a Meddygaeth Liniarol,  Ysgol  Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Cyfarwyddwr Banc Canser Cymru.

 

5.       08.30 Technegau Radiotherapi Newydd - Dr  Tom Crosby, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ganser Felindre. Cyfarwyddwr Rhwydwaith Canser De Cymru.

 

6.       08.40 Trafodaeth

 

1. Cytunodd y grŵp y byddai Julie Morgan AC yn parhau'n Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, ac y byddai Clare Bath, CR-UK yn parhau'n Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol.

 

2. Croesawodd Julie Morgan y siaradwyr a dywedodd fod y cyfarfod hwn yn amserol o ystyried bod y Pwyllgor Iechyd yn cynnal ymchwiliad i dechnolegau meddygol. Bydd Clare Bath yn anfon copi o gofnodion y cyfarfod at Glerc y Pwyllgor Iechyd. 

 

3. Cyflwyniadau

 

1.    Rhoddodd y Dr Rachel Butler a'r Athro Malcolm Mason gyflwyniad ar brofion genetig a meddygaeth haenedig (yn atodedig).  Tynnwyd sylw at y modd y mae profion yn medru adnabod pobl sydd mewn perygl o ganser, a'r modd y gall meddygaeth haenedig ddewis y driniaeth gywir ar gyfer yr unigolyn, a thrwy hynny'n osgoi'r driniaeth anghywir.
Roedd y cyflwyniad yn tynnu sylw at fuddiannau economaidd y dull haenedig a'r buddiannau o ran gofal iechyd, ac roedd yn nodi'r hyn sydd ei angen ar y gwasanaeth meddygaeth haenedig i symud ymlaen yng Nghymru.

2.       Cafwyd cyflwyniad gan y Dr Tom Crosby ar dechnegau radiotherapi newydd - ‘Cost Effective Cutting Edge Technology’ (yn atodedig).   Roedd y cyflwyniad yn amlinellu sut y mae'r technegau newydd hyn wedi lleihau 50% ar y sgîl-effeithiau a ddioddefir gan gleifion, a sut y mae'r arian sy'n cael ei wario ar radiotherapi yn fach iawn o'i gymharu â'r arian sy'n cael ei wario ar fathau eraill o driniaethau canser.

4. Trafodaeth

 

Technegau radiotherapi newydd- Gofynnodd Peter Thomas am sgîl-effeithiau'r triniaethau radiotherapi newydd, a dywedodd y Dr Tom Crosby y gall y technegau newydd haneru'r sgîl-effeithiau.  Fodd bynnag, pwysleisiodd bod angen casglu data, a bod ymchwil a threialon clinigol sy'n mesur y canlyniadau yn allweddol i lwyddiant.

 

Radiotherapi molecwlaidd  - Dywedodd y Dr Tom Crosby fod hwn ar fin magu adenydd ond ei fod yn gymhleth. Mae 11 canolfan yn Lloegr yn ei ddefnyddio ac mae modd iddynt wneud hynny yn Felindre, ond yn gyntaf mae angen sefydlu'r ffrwd ariannu i Loegr, ac yna defnyddio'r cleifion hynny sy'n dychwelyd i Gymru i sefydlu achos busnes dros ddarparu'r driniaeth hon yng Nghymru.

 

Comisiynu  –Teimlai'r rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fod y strwythurau ar gyfer comisiynu yng  Nghymru yn wan, yn enwedig o ran technolegau radiotherapi newydd a thriniaethau fel meddygaeth haenedig gan ei bod yn anodd dod o hyd i gartref iddynt. Ymddengys bod diffyg cysondeb/eglurder yn yr hyn sy'n rhan o gylch gwaith Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).

Gofynnodd Julie Morgan a yw hyn yn cael ei adolygu.

Dywedodd y Dr Rachel Butler iddi fod yn anodd comisiynu gwasanaeth meddygaeth haenedig, a'i bod yn anodd cael tegwch ar gyfer meddygaeth haenedig. Amlinellodd y Dr Butler yr arbedion o ran costau sy'n gysylltiedig â meddygaeth haenedig - mae profion genetig yn costio £80 ac mae meddygaeth haenedig i gleifion canser yr ysgyfaint sydd â mwtadiad EGFR cadarnhaol (EGFR mutation positive) yn arbed £74,759 y flwyddyn ar draws de-ddwyrain Cymru.[1] Mae'r Dr Rachel Butler wedi llunio papur o gynigion ar gyfer gwasanaethau Meddygaeth Haenedig yng Nghymru.  Mae'n hanfodol bod eglurder ynghylch comisiynu'r gwasanaeth hwn. Mae Cymru wedi arwain y ffordd drwy Fanc Canser Cymru a'r ganolfan dechnoleg yng ngwasanaeth geneteg Caerdydd a'r Fro, ond yr ydym nawr ar ei hôl hi oherwydd diffyg cynllunio strategol a chomisiynu cadarn.

Amlinellodd y Dr Tom Crosby hefyd y modd y mae radiotherapi yn cynnig gwerth am arian o'i gymharu â'r gwariant ar gyffuriau canser:

Yn Lloegr: 

 -  Cronfa Cyffuriau Canser = £200 miliwn/y flwyddyn

 -  Cronfa Arloesi Radiotherapi = £23 miliwn (unwaith ac am byth)

 -  i alluogi pob un o'r 30,000 o gleifion sydd angen IMRT bob blwyddyn i'w gael

 -  11.5% o gyllideb flynyddol CDF! [2]

Cytunodd y rhai a oedd yn bresennol bod y system gomisiynu bresennol ar gyfer y triniaethau hyn yn rhwystredig o ystyried y gostyngiad yn y sgîl-effeithiau ar gyfer cleifion a'r costau y gellir eu harbed. Gofynnodd Susan Morris sut y gallwn wneud gwasanaethau meddygaeth haenedig yn fwy cydgysylltiedig, a beth all y Grŵp Gweithredu ar Ganser ei wneud i helpu.

Nododd Annie Proctor bod meddygaeth haenedig yn cael eu clymu mewn clefydau mwy prin ond bod modd i'r dulliau newydd hyn fod o fudd i'r GIG yn gyffredinol. Mae angen strwythur i fwrw ymlaen â'r triniaethau meddygaeth haenedig, ac mae angen i feddygaeth haenedig a phrofion genetig fod yn rhan annatod yn y system gyfan. 

Cydnabuwyd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn technegau radiotherapi newydd a'r offer sydd ei angen. Y broblem yw comisiynu'r costau refeniw.  Mae'n rhaid i ni anelu at system sy'n cefnogi technoleg ac arfarnu cynnar os ydym am gynnig y driniaeth orau i gleifion a denu staff o'r radd flaenaf gan agor y drws iddynt at y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer ymchwil yn ogystal â datblygu gwasanaethau.

 

Adolygiad strwythurol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR)  - Roedd y Dr Malcolm Adams ac eraill yn y gynulleidfa hefyd yn bryderus iawn am  adolygiad strwythurol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) ac anogodd y Dr Malcolm Adams a'r Athro Malcolm Mason bawb i ymateb gan bwysleisio'r angen am waith ymchwil cymhwysol cyflym.

 

 

 

 



[1] The economics of EGFR mutation testing in Non-Small Cell Lung Cancer

[2] Cost Effective Cutting Edge Technology, Cyflwyniad gan y Dr Tom Crosby, 4.12.13